Elgar portrait -
from a painting belonging to Arthur Reynolds

SYR EDWARD ELGAR (1857-1934)
Bywgraffiad Byr


Ganwyd Elgar ar yr ail o Fehefin 1857 ym mhentre Broadheath ger Caerwrangon yng Nghanolbarth Lloegr ac fe gododd, o fagwraeth ddigon tlawd, i dderbyn urdd Marchog ac i ddod yn gyfansoddwr pwysicaf Lloegr.

Siop Elgar yng
nghanol Caerwrangon

Magwyd ef mewn awyrgylch cerddorol. Roedd ei dad yn berchen siop cerddoriaeth yng Nghaerwrangon a'r teulu a'u ffrindiau yn meddu ar ddigon o allu cerddorol i godi grwp bach offerynnol a chwarae rhai o gyfansoddiadau cynnar Elgar ei hun. Serch hynny, methiant fu ei ymdrechion i dorri ymaith o'i wreiddiau taleithiol a sefydlu ei hun yn y cylch cerddorol yn Llundain. Ar l deunaw mis o galedi a siom (yn y cyfnod 1889-91) dychwelodd Elgar ai wraig Alice i Sir Gaerwrangon.

Roedd Alice naw mlynedd yn hn na'i gwr ac roedd ganddi ffydd mawr yn ei allu. Gyda'i chefnogaeth ddiflino hi fe ddaeth Elgar yn eithaf adnabyddus yng Nghanolbarth Lloegr gyda chyfansoddiadau sylweddol ar gyfer cymdeithasau corawl lleol a'r 'Three Choirs Festival' sef 'King Olaf' (1896), 'The Light of Life' (1896) a 'Caractacus' (1898). Pan gafodd ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o'r diwedd, digwyddodd hynny'n sydyn ac annisgwyl.

Alice Elgar

Dau gyfansoddiad oedd yn bennaf gyfrifol am hyn. Yr oratorio 'Breuddwyd Gerontius' oedd y cyntaf o'r rhain ac fe'i cyfansoddwyd ar gyfer Gwyl Birmingham yn 1900. Er bod llawer erbyn hyn yn teimlo mai hwn yw ei waith gorau, roedd y perfformiad cyntaf yn drychinebus gan fod y cr a'r gerddorfa heb ymarfer digon. Fodd bynnag, roedd Julius Buths, yr arweinydd o'r Almaen, wedi darganfod gwychder y gwaith ac aeth ati i drefnu perfformiadau yn Dsseldorf. Ar y pryd achosodd hyn i enw Elgar ddod yn fwy adnabyddus efallai yn yr Almaen nag oedd yn Llundain. Serch hynny, ei waith cynharach, sef yr 'Enigma Variations', lle roedd yn cyflwyno darluniau cerddorol o'i ffrindiau, ddaeth ag ef i amlygrwydd fel cyfansoddwr cenedlaethol ym Mhrydain.

Wedi hyn fe ddaeth Elgar yn boblogaidd tu hwnt gyda llu o weithiau a gafodd ganmoliaeth uchel iawn. Roedd rhain yn cynnwys dwy oratorio wych arall, sef Yr Apostolion (1903) a'r Deyrnas (1906). Hefyd, cafodd ei sefydlu'n Farchog (1904) a pherfformiwyd ei simffoni gyntaf yn 1907 gyda chant a rhagor o berfformiadau yn ystod y flwyddyn gyntaf. Derbyniodd radd anrhydeddus gan nifer o brifysgolion Prydain ac America a'r 'Order of Merit' ym 1911.

Elgar a'i gi
spaniel, Marco
Roedd Elgar, y cerddor lleol oedd wedi ei ddysgu ei hun, yn dod o gefndir gweddol gyffredin ac yn Babydd hyd yn oed, wedi cyrraedd calon y Sefydliad Prydeinig. Roedd ei waith yn adlewyrchu awyrgylch hapus y cyfnod ond fe newidiodd y Rhyfel Mawr 1914-1918 hyn i gyd. Fe newidiodd Elgar ei hun hefyd.

Ci cerddoriaeth EIgar ei hystyried yn rhwysgfawr a bombastig yn aml a hynny'n rhannol oherwydd geiriau 'Land of Hope and Glory', a seiliwyd ar ran o'i ymdeithgan 'Pomp and Circumstance'. Ond, er ei fod yn wladgarwr, roedd hefyd yn heddychwr ac yn ei chael yn anodd iawn dygymod 'r dioddef diangen achoswyd gan y rhyfel. Yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Mawr fe gyfansoddodd dri darn siambr a hefyd y 'Cello Concerto', pob un ag agwedd dywyllach, fwy mewnblyg na'i weithiau blaenorol. Yn dilyn marwolaeth Alice ym 1920 fe ymddengys fod ei ddisgleirdeb creadigol ef hefyd wedi dod i ben. Er iddo barhau i ymgymryd llawer o weithgareddau cerddorol, gwneud nifer o recordiau gwych o'i waith ei hun i EMI (ac mae rhain ar gael hyd heddiw) a derbyn Comisiwn gan y BBC, i gyfansoddi trydydd simffoni, methodd a chyflawni'r gwaith olaf hwn ac ni chyfansoddodd ddim o werth ar l hynny hyd at ei farwolaeth ym 1934.

Elgar yn arwain yn
stiwdio 1 EMI yn
Ffordd Abbey ym 1931

Er ei fod yn Brydeiniwr i'r carn, nid yw ei gerddoriaeth yn nodweddiadol Brydeinig a chafodd ei gymharu, yn aml yn anffafriol, chyfansoddwyr yr Almaen megis Wagner a Brahms. Yn canlyn ei farwolaeth aeth ei fiwsig yn fwyfwy amhoblogaidd a phan lansiwyd Cymdeithas Elgar ym 1951 pur anaml y perfformid ei waith - hyd yn oed ei brif weithiau. Tybia llawer o bobl mai'r trobwynt yn ei boblogrwydd oedd y ffilm bywgraffyddol a wnaed gan y cyfarwyddwr enwog Ken Russell i'r BBC ym 1962. Ers hynny mae poblogrwydd ei gerddoriaeth wedi mynd o nerth i nerth. Prin iawn y gwelir penwythnos yn mynd heibio heb glywed o leiaf un o'r gweithiau mawr, tra mae Classic FM, yr orsaf radio fasnachol fwyaf Ilwyddiannus ym Mhrydain, wedi ceisio elwa ar ei boblogrwydd trwy ddefnyddio darnau byr o'i waith fel miwsig thema. Yn l pob golwg mae'n ymddangos mai dim ond Beethoven ac efallai Mozart sydd yn cael cymaint o barch ag Elgar gan y cyhoedd ym Mhrydain ac, os bydd y tueddiadau diweddaraf yn parhau, pwy a wyr na fydd hyd yn oed y cewri hynny yn gallu cystadlu ag ef.


Dychwelwch i :

Welcome page index 'Elgar- His Life' index